Mae ymweliad Eisteddfod yr Urdd â Llanelwedd yr wythnos hon yn cynnig cyfle i adael gwaddol parhaol ar gyfer ffyniant y Gymraeg ym Mhowys, meddai mudiad ymgyrchu.

Daw sylwadau RhAG (Rhieni dros Addysg Gymraeg) wrth bwyso ar i Gyngor Powys gydio yn y cyfle i ehangu darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg ym mhob rhan o’r sir.

Mae arwyddion cadarnhaol eisoes ar droed, meddai’r mudiad, gydag agor Ysgol Gynradd y Trallwng ym Medi 2017 yn garreg filltir hanesyddol. Llwyddiant “digamsyniol” arall, meddai, yw Ysgol Dafydd Llwyd, yn y Drenewydd, sy’n dangos fod yna alw cynyddol am addysg Gymraeg.

“ Mae angen dybryd i ymestyn y Gymraeg i bob rhan o’r sir. Mae gormod o ardaloedd heb addysg Gymraeg o gwbwl ac mae angen unioni’r cam hwnnw,” meddai Wyn Williams, Cadeirydd Cenedlaethol RhAG.

“Bydd ehangu’r ddarpariaeth, trwy sefydlu mwy o ysgolion cyfrwng Cymraeg, yn torri’r cylch caeth presennol ac yn gweddnewid y tirlun o safbwynt addysg Gymraeg yn y sir.

“Mawr obeithiwn y gwelwn sawl datblygiad pwysig yn dwyn ffrwyth dros y blynyddoedd nesaf, gan gynnwys agor ysgol gynradd Gymraeg yn ardal Llandrindod; symud Ysgol Bro Hyddgen, Machynlleth ar hyd y continwwm ieithyddol trwy gael gwared ar y ffrwd cyfrwng Saesneg; a sefydlu ysgol uwchradd 2A yng ngogledd y sir.

“Mae’r galw a’r angen yn glir: rhaid cymryd camau pendant i sefydlu’r ddarpariaeth fydd yn bodloni hynny.”