Mi fydd mannau ‘dim smygu’ yn cael eu cyflwyno ar diroedd ysbytai, ysgolion a meysydd chwarae erbyn 2019, yn ôl Llywodraeth Cymru.
Mae hyn yn golygu mai Cymru fydd y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i ymestyn y gwaharddiad smygu i fannau awyr agored, a’r nod yw amddiffyn pobol a phlant nad ydyn nhw’n smygu rhag anadlu mwg ail-law.
Er bod gan y rhan fwyaf o ysbytai yng Nghymru eisoes bolisïau yn erbyn smygu ar eu tiroedd, does dim modd gorfodi’r gwaharddiad yn gyfreithiol ar hyn o bryd.
Fe fydd y cam hwn gan Lywodraeth Cymru felly yn gwneud smygu mewn rhai mannau awyr agored yn anghyfreithlon, ac fe fydd modd i sefydliadau rhoi diryw i’r ysmygwyr hynny sy’n torri’r rheolau.
“y diwylliant wedi newid”
Yn ôl yr Ysgrifennydd Iechyd yn y Cynulliad, Vaughan Gething, mae’n falch iawn bod Cymru’n “arwain y Deyrnas Unedig” i leihau’r effaith mae smygu yn ei gael ar bobol.
“Mae agweddau at smygu wedi newid yn sylweddol ers 2007,” meddai.
“Bryd hynny roedd rhywfaint o wrthwynebiad, ond mae’r diwylliant wedi newid yn rhyfeddol, ac rwy’n falch iawn bod ein cynllun i ymestyn ardaloedd di-fwg i gynnwys mannau cyhoeddus awyr agored wedi cael cefnogaeth sylweddol gan y cyhoedd.”
Yn ôl ffigyrau, mae smygu yn achosi tua 5,450 o farwolaethau ac yn costio tua £302m i’r Gwasanaeth Iechyd bob blwyddyn.