Mae gan aelodau Yr Academi Gymreig dair wythnos i gynnig ffordd newydd o redeg y gymdeithas o awduron, neu fe fydd y corff yn cael ei ddiddymu ddiwedd Mawrth y flwyddyn nesaf.

Os na fydd grwp o bobol yn dod yn ei flaen â chynllun ar gyfer rhedeg y gymdeithas, fe fydd y brand yn dod i ben, oni bai am ei ddefnyddio fel rhan o deitl ysgoloriaethau i awduron newydd, ac yn rhan o deitl gwobr cyfraniad nodedig i fyd llenyddiaeth sydd hefyd yn dwyn enw Glyn Jones.

Dyna fyrdwn pecyn sydd wedi’i anfon at aelodau, cymrodyr ac aelodau anrhydeddus o’r Academi Gymreig gan Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr asiantaeth Llenyddiaeth Cymru.

Mae llythyr, dyddiedig Mai 11, 2018, gan Tom Anderson, cadeirydd yr Academi Gymreig, yn rhoi mis o amser i aelodau ymateb i’r her o greu strwythur newydd ar gyfer yr Academi, ynghyd â diffinio pwrpas ymarferol i’r corff o awduron a sefydlwyd gyntaf yn 1959.

Ar hyn o bryd, yr Academi Gymreig yw “cymdeithas genedlaethol llenorion Cymru”, yn ôl ei chyfansoddiad ei hun. “Mae’r gymdeithas yn cynrychioli llenorion Cymru ac ysgrifennu Cymraeg a Chymreig yng Nghymru a thu hwnt.”

Diben yr Academi Gymreig yw dathlu cyfraniad llenorion Cymru; lobïo ar ran llenorion Cymru; meithrin cymuned o lenorion; darparu cymorth eirioli; ynghyd â chefnogi datblygiad gyrfaol llenorion Cymru.

Cyfarfod cyffredinol 

Yng nghyfarfod cyffredinol arbennig yr Academi Gymraeig ar Ebrill 14, 2018, pleidleisiodd yr Aelodau/Cymrodyr/Aelodau Anrhydeddus oedd yn bresennol dros roi mis o amser i griw o bobol gynnig cynllun ar gyfer rhedeg yr Academi yn y dyfodol.

Ond, os na fydd Bwrdd Rheoli yr Academi Gymreig, fel ag y mae ar hyn o bryd, yn barnu fod cynigion priodol wedi dod i law, fe fydd y corff yn cael ei ddiddymu.

Mae angen i unrhyw grwp â diddordeb mewn ymgymryd â’r gwaith o redeg yr Academi Gymreig o Ebrill 1, 2019 ymlaen, gyflwyno cais erbyn Mehefin 14 eleni.

Y telerau 

Fe fydd angen i unrhyw grwp ddatgan yn eu Cynllun Busnes, y meini prawf canlynol:

  • Gweledigaeth ar gyfer yr Academi Gymreig, yn cynnwys nodau ac amcanion y gymdeithas o awduron;
  • Targedau;
  • Strategaeth ar gyfer datblygu’r Academi Gymreig a’i haelodaeth; sut y bydd yn cael ei gweithredu; a sut fydd y cyfrifoldebau am wahanol agweddau’r cynllun yn cael eu rhannu;
  • Cyllideb;
  • Cynllun marchnata;
  • Llythyrau o gefnogaeth i’r cais.

Fe fydd angen i unrhyw grwp sy’n anfon cais i mewn, fod yn barod i gael Cyfansoddiad newydd yn ei le erbyn Mawrth 31, 2019, ynghyd â Phwyllgor/Bwrdd Rheoli; Trysorydd; Cadeirydd; cyfrif banc yn enw’r AG; a chyfeiriad busnes.

Hanes yr Academi Gymreig 

Fe gafodd yr Academi Gymreig ei sefydlu yn 1959 “yn dilyn sgyrsiau” rhwng Bobi Jones a Waldo Williams. Prif amcan y gymdeithas yn dilyn y cyfarfod cyntaf ym 1960, oedd sefydlu cylchgrawn llenyddol Cymraeg, Taliesin.  Crëwyd yr adran Saesneg ei hiaith yn 1968.

Yn 1998 fe ddaeth yn asiantaeth genedlaethol i hybu llenyddiaeth ar ran Cyngor Celfyddydau Cymru – enw’r asiantaeth hon oedd ‘Academi’.

Yn 2011, fe ymunodd Academi â Chanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd a dod yn ‘Llenyddiaeth Cymru’.

Mae’r Academi Gymreig wedi bodoli fel cymdeithas llenorion Cymru, o fewn i Academi a than eleni.