Bydd tri ymgyrchydd gwrth-niwclear o Gymru yn teithio i Japan yr wythnos nesaf mewn ymgyrch ar y cyd rhwng mudiadau yn y ddwy wlad.

Bydd Robat Idris, Linda Rogers a Meilyr Tomos o fudiad PAWB [Pobol Atal Wylfa B], yn ymgyrchu yno am wythnos rhwng Mai 24 a Mehefin 1.

Y bwriad yw ceisio atal technoleg niwclear cwmni Hitachi rhwng teithio o Japan i safle Wylfa ar Ynys Môn a hynny wedi cyfarfod rhwng cadeirydd y cwmni a Theresa May dros gael mwy o arian i ddatblygu ail atomfa niwclear ar yr ynys.

Does dim cadarnhad bod y Prif Weinidog wedi addo arian i Hitachi i ddatblygu Wylfa Newydd – ac mae’n debyg bod y prosiect yn ddibynnol ar gael cyllid gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

 

Neges yr ymgyrch

Yn ôl Robat Idris, byddan nhw’n ceisio darbwyllo gwleidyddion a chwmnïau i roi’r gorau i ariannu prosiect Wylfa Newydd.

“Bydd ein neges ar y cyd i wleidyddion a bancwyr Japan yn glir iawn: peidiwch â thywallt arian da i bwll diwaelod ynni niwclear. Dyma dechnoleg hen ffasiwn, budr, peryglus a rhaid talu crocbris amdani.

“Mae’r tair ffrwydriad a thoddiadau yng nghalon adweithyddion Fukushima wedi, ac mi fyddan nhw, yn costio’n ddrud i bobl Japan,” meddai wedyn.  “Does dim golwg o ben draw i’r drasiedi barhaol hon, sy’n golygu na chaiff adweithyddion niwclear newydd mo’u hadeiladu yn Japan.

“Mae’n annerbyniol fod Japan yn dymuno allforio’r dechnoleg farwol yma i wladwriaeth arall er mwyn cadw’i hun yn y clwb niwclear. Ein braint fawr ni fydd dod i Japan a sefyll mewn undod gyda phawb sy’n gwrthwynebu allforio adweithyddion niwclear o Japan.”