Mewn dadl danbaid yn y Senedd heddiw, mae Arweinydd Plaid Cymru wedi apelio ar Aelodau Cynulliad i “amddiffyn Cymru”.
“Fy nghyd-aelodau, dw i’n gwybod eich bod yn credu mewn datganoli,” meddai Leanne Wood yn ystod y drafodaeth. “Ac oherwydd hynny, dw i’n apelio arnoch i sefyll â ni heddiw.
“Ymunwch â ni, wrth i ni amddiffyn Cymru. Ymunwch, a ni wrth i ni sefyll dros ddatganoli.”
Testun y drafodaeth yw Mesur Ymadael yr Undeb Ewropeaidd, ac mae disgwyl i Aelodau Cynulliad bleidleisio tros gytuno ar agweddau ohono.
Y ddeddf hon fydd yn galluogi San Steffan i droi cyfraith Ewropeaidd yn gyfraith Brydeinig, ond pryder rhai yw y gallai pwerau gael eu cipio wrth Gymru yn y broses.
“Sarhad i ddemocratiaeth”
Mi wnaeth yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford, ddechrau’r drafodaeth trwy fynnu nad yw’r ddeddf yn fygythiad i Gymru – mae eisoes wedi dweud ei fod yn “cadarnhau datganoli”.
Ac aeth ati i dynnu sylw at “ddiffyg dealltwriaeth lwyr” Plaid Cymru, pan wnaeth Aelodau Cynulliad o’r blaid, Adam Price, a Rhun ap Iorwerth, alw’r ddeddf yn “sarhad i ddemocratiaeth”.
“Os byddwn yn pleidleisio am hyn heddiw, mi fyddwn yn derbyn nad yw’r lle yma’n sofran bellach,” meddai Adam Price yn ddiweddarach.
Mae disgwyl pleidlais ar y mater yn hwyrach heno (dydd Mawrth Mai 15).