Mi fydd rhieni sy’n parcio’n anghyfreithlon y tu allan i ysgolion yn wynebu dirwy wrth i gar arbennig nodi manylion platiau cofrestru ceir.

Mae Cyngor Bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr wedi penderfynu prynu car Peugeot gwyn a fydd yn cael ei yrru o gwmpas 60 o ysgolion yr awdurdod.

Mae’r car yn cynnwys camerâu CCTV, ynghyd â thechnoleg sy’n adnabod platiau cofrestri ceir, a’r nod yw cosbi’r ceir hynny sydd wedi’u parcio’n anghyfreithlon.

Mi fydd dirwy wedyn yn cael ei hanfon at berchnogion y ceir trwy’r post.

Problemau 

Yn ôl y Cyngor, maen nhw wedi penderfynu cymryd y cam hwn ar ôl i gamau eraill fethu.

Er bod gan yr awdurdod 12 swyddog gorfodaeth sy’n rhoi tua 10,000 o gosbau y flwyddyn i droseddwyr, maen nhw’n dweud bod gyrwyr yn parhau i barcio’n anghyfreithlon y tu allan i ysgolion, a hynny ar adegau pan nad oedd y swyddogion yno.

Ond mae llefarydd ar ran y Cyngor yn credu y bydd y buddsoddiad newydd hwn mewn car yn profi’n “rhwystr” i droseddwyr, gan annog gyrwyr i ailystyried cyn parcio mewn mannau anghyfleus.

Mae cynghorau eraill, fel Cyngor Dinas Caerdydd, yn gweithredu yn yr un modd hefyd.