Mae Heddlu De Cymru wedi cyfiawnhau ei ddefnydd o dechnoleg adnabod wynebau er bod dros 2,000 o bobl mewn gêm bêl-droed wedi cael eu hadnabod ar gam fel troseddwyr posibl.
Ers mis Mehefin y llynedd, mae’r Heddlu wedi bod yn treialu’r dechnoleg i geisio dal mwy o droseddwyr wrth ddefnyddio camerâu i gymharu lluniau wynebau mewn torf â chronfa ddata’r heddlu.
Wrth i 170,000 o bobl ddod i Gaerdydd ar gyfer gêm derfynol Cynghrair y Pencampwyr rhwng Real Madrid a Juventus y llynedd, cafodd 2,470 eu hadnabod fel rhai’n cyfateb i bobl dan amheuaeth o droseddu yn y gorffennol. O archwilio ymhellach, roedd 2,297 ohonyn nhw – 92% – wedi cael eu hadnabod ar gam.
Dywed yr Heddlu fodd bynnag, nad oedd neb wedi cael ei arestio ar gam ar sail camgymeriadau o’r fath, a bod cyfanswm dros 2,000 o bobl wedi cael eu hadnabod yn gywir dros y naw mis diwethaf.
Dedfrydau o garchar
“Mae’r dechnoleg wedi cael ei defnyddio i arestio dros 450 o bobl, gan arwain mewn rhai achosion at ddedfrydau o garchar am ladrata,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu. “Mae’r dechnoleg hefyd wedi helpu adnabod pobl fregus ar adegau o argyfwng.
“Mae problemau technegol yn gyffredin i bob system adnabod wynebau, ond ers ei defnyddio gyntaf yng ngêm derbynol Cynghrair y Pencampwyr ym mis Mehefin y llynedd, mae system Heddlu De Cymru wedi parhau i wella.”
Mae’r grŵp hawliau sifil Big Brother Watch wedi beirniadu’r dechnoleg mewn datganiad ar Twitter:
“Yn ogystal â bod yn fygythiad i hawliau sifil, mae technoleg adnabod wynebau yn arf plismona peryglus o annibynadwy.”