Mae Gorsedd y Beirdd wedi cyhoeddi pwy fydd yn cael eu hanrhydeddu yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd eleni.

Ymhlith yr enwau amlwg sy’n cael eu hurddo eleni mae Ned Thomas, yr academydd a geisiodd sefydlu papur newydd dyddiol Cymraeg; y chwaraewr rygbi rhyngwladol Jamie Roberts; cyfarwyddwr Coronation Street, Terry Dyddgen Jones; a’r darlledwyr John Hardy a Vaughan Roderick.

Fe fydd y dramodydd, y sgriptwraig a’r actores Manon Eames, hefyd yn cael coban; ynghyd â’r digrifwr Ifan Gruffydd o Dregaron; y bardd a’r cerddor, Geraint Jarman; a’r actor sydd fwyaf adnabyddus fel y cymeriad Plwmsan, Mici Plwm.

Er bod y newyddiadurwr, Huw Edwards, yn cael ei anrhydeddu eleni yng Nghaerdydd, ni fydd yn cael ei urddo

Pwy sy’n cael pa liw?

Mae unigolion yn cael eu derbyn i’r Wisg Werdd am eu cyfraniad i’r Celfyddydau, am ennill un o brif wobrau Eisteddfod yr Urdd neu am fod â gradd yn y Gymraeg, Cerddoriaeth neu bwnc drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae’r Wisg Las yn cael ei rhoi am wasanaeth i’r genedl ym meysydd y gyfraith, gwyddoniaeth, chwaraeon, newyddiaduraeth, y cyfryngau neu weithgareddau bro neu genedlaethol.

Enillwyr prif gystadlaethau’r Eisteddfod Genedlaethol yn unig sy’n derbyn y Wisg Wen bellach.

Bydd yr holl unigolion yn cael eu hurddo’n Urdd Derwydd ar fore Gwener yr Eisteddfod, sef Awst 10.