Mae Pwyllgor Gwaith Cyngor Môn wedi cymeradwyo cynllun i gau dwy ysgol gynradd yn y sir.

O dan y cynllun mi fydd ysgolion Bodffordd a Chorn Hir yn cau gydag ysgol newydd yn cael ei hadeiladu yn eu lle i wasanaethu ardal Llangefni.

Fe fydd Ysgol Henblas (Llangristiolus) yn aros ar agor. Penderfynodd aelodau’r Pwyllgor Gwaith roi blwyddyn iddi wneud gwelliannau yn dilyn adroddiad siomedig gan arolygwyr Estyn ym mis Mai 2017.

Roedd Pwyllgor Craffu Corfforaethol y Sir wedi awgrymu atal newidiadau tan i Gôd Trefniadaeth newydd ddod i rym – cod fyddai wedi diogelu’r safleoedd.

Mae Cymdeithas yr Iaith eisoes wedi cyhuddo swyddogion y Cyngor o “ruthro” i gau’r safleoedd, cyn i’r Côd gael ei gyflwyno.

Mae’r mudiad wedi galw ar gynghorwyr Ynys Môn i wrthwynebu’r cynllun a’i ail gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu.

Mae gan aelodau’r Cyngor Sir (sydd ddim yn eistedd ar y Pwyllgor Gwaith) hyd at bum diwrnod i gyflwyno cais i “alw mewn” y penderfyniad.

“Dyletswydd”

Ond dywedodd y deilydd portffolio Addysg, y Cynghorydd Meirion Jones: “Nid yw’r penderfyniad i greu ysgol gynradd newydd yn ardal Llangefni wedi’i wneud ar chwarae bach. Mae gennym ddyletswydd, fodd bynnag, i weithredu er lles buddiannau’r Ynys gyfan.

“Os ydym am ddarparu’r addysg o’r safon uchaf ar hyd y sir i gyd, bydd rhaid gwneud y defnydd gorau posib o arian Llywodraeth Cymru sydd ar gael ar hyn o bryd. Yn anffodus, nid yw’r sefyllfa sydd ohoni yn gynaliadwy.”

“Anhygoel”

“Mae’n anhygoel fod y Pwyllgor Gwaith am frysio ’mlaen i gau’r ysgolion ychydig o wythnosau’n unig cyn y bydd Côd Trefniadaeth newydd yn dod i rym a fydd yn gosod rhagdyb o blaid cadw ysgolion gwledig ar agor,” meddai Ffred Ffransis o Gymdeithas yr Iaith.

“… Mae’r Pwyllgor Gwaith am wneud hyn yn groes i ewyllys rhieni lleol, yn groes i welliant Pwyllgor Craffu’r Cyngor ei hun, a heb werthuso’r opsiynau eraill fel creu Ffederasiwn Ysgolion Cefni.

“… Galwn ar gynghorwyr nad sydd ar y Pwyllgor Gwaith i ‘alw i mewn’ y penderfyniad – sy’n golygu yr aiff y penderfyniad yn ôl at y Pwyllgor Craffu ac yna i’r Cyngor llawn.”