Mae dyn 18 oed yn parhau i fod yn y ddalfa ar ôl i gar daro i mewn i bedwar o bobol yng Nghasnewydd fore dydd Sul.

Cafodd y dyn ei arestio ar amheuaeth o achosi niwed drwy yrru’n beryglus yn dilyn y digwyddiad ar Heol Cambrian am 5.30 y bore dydd Sul, 29 Ebrill.

Mae tair dynes a dyn yn parhau i gael triniaeth yn yr ysbyty ar ôl y digwyddiad. Mae’n debyg bod dwy ferch wedi cael anafiadau allai newid eu bywydau.

Fe wnaeth gyrrwr y car Ford C Max glas ffoi wedi’r digwyddiad. Cafodd y gyrrwr ei ddisgrifio fel dyn croenddu yn ei ugeiniau.

Cafwyd hyd i’r car wedi ei losgi ar Stryd Magwyr yn ddiweddarach.

Dydy’r heddlu ddim yn trin y digwyddiad fel un brawychol.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr un diwrnod a’r marathon yn y ddinas gan achosi oedi cyn dechrau’r ras.