Mi fydd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, ar ymweliad â Qatar yn y Dwyrain Canol yr wythnos hon, er mwyn hybu’r cysylltiad newydd rhwng Maes Awyr Caerdydd a Doha.
Wrth i deithiau dyddiol rhwng y ddwy brifddinas gychwyn, mae Carwyn Jones hefyd wedi cyhoeddi y bydd 10 cwmni o Gymru yn ymuno ag ef ar y daith gyntaf gan gynnwys Rachel’s Dairy, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ac AmniTec.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mi fydd y daith fasnach hon yn rhoi cyfle i greu a chryfhau cysylltiadau â darpar bartneriaid a buddsoddwyr, a hynny naill ai’n annibynnol neu drwy gyfrwng derbyniadau a fydd yn cael eu cynnal yno.
“Cyfleoedd economaidd cyffrous”
“Mae gan y gwasanaeth uniongyrchol newydd rhwng Caerdydd a Doha y potensial i ddod â chyfleoedd economaidd cyffrous i fusnesau o Gymru sydd am fasnachu â’r Dwyrain Canol, India, Tsieina, Singapore ac Awstralia,” meddai Carwyn Jones.
“Mae’r daith fasnach hon yn dangos yr awch sydd ymhlith busnesau o Gymru i wneud y gorau o’r cyswllt masnach newydd hwn ac i ddangos i’r byd beth sydd gennym i’w gynnig.”
Y 10 cwmni fydd yn ymuno a Carwyn Jones ar y daith yw:
- AmniTec
- Axium Process
- Calon Wen Organic
- Catnic – Tata Stell UK
- Penfro Consultancy
- Rachel’s Dairy
- Fferm Organic Rhug
- Site Heat
- Teddington Engineered Solutions
- Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant