Mae unigolyn wedi marw ar ôl dod oddi ar feic modur ar y B5106 rhwng Betws-y-coed a Llanrwst.

Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth am y digwyddiad ar ôl cael eu galw am 5 o’r gloch fore heddiw.

Bu farw’r beiciwr modur 32 oed yn y fan a’r lle.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.