Mae corff dyn wedi’i ddarganfod ar draeth Llandudno.
Cafodd yr heddlu eu galw gan yr RNLI lleol am 5.37 fore heddiw, ac mae ymchwiliad ar y gweill.
Mae’r heddlu’n trin ei farwolaeth fel un nad oes esboniad ar ei chyfer ar hyn o bryd.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.