Mae Aelod Seneddol Ceredigion, Ben Lake wedi mynegi pryder ynghylch yr oedi cyn cyflwyno’r Credyd Cynhwysol yng Ngheredigion.

Daeth cyhoeddiad yn ddiweddar gan yr Adran Gwaith a Phensiynau na fyddai’n cael ei gyflwyno tan fis Rhagfyr – er mai mis Medi oedd y dyddiad gwreiddiol.

Bydd y Credyd Cynhwysol yn disodli’r hen fudd-daliadau, gan gynnwys Cefnogaeth Incwm, ESA a Chredydau Treth trwy Waith.

Dywedodd Ben Lake y byddai newid y dyddiad yn cael effaith ar deuluoedd adeg y Nadolig.

“Rwyf yn croesawu’r newyddion bod Llywodraeth y DU wedi penderfynu oedi’r cyflwyniad o Gredyd Cynhwysol i Geredigion, gyda’r gobaith bydd hyn yn rhoi cyfle i’r Llywodraeth gywiro nifer o broblemau amlwg sydd yn perthyn i’r taliad.

“Mae yno amryw o broblemau wedi bod gyda chyflwyniad y budd-daliad i ardaloedd eraill o Brydain, serch hynny mae’r cyflwyniad arfaethedig o fis Rhagfyr yn fy mhoeni yn arw.

“Gyda dathliadau’r Nadolig, tywydd gaeafol a chyfnodau o wyliau, gall Rhagfyr fod yn fis caled yn ariannol i deuluoedd ac unigolion.

“Mae gen i felly bryderon sylweddol y bydd cyflwyniad Credyd Cynhwysol yng Ngheredigion nid yn unig yn rhoi hawlwyr dan straen cyllidol ychwanegol, ond hefyd yn cyd-daro ar gyfnod pan all amryw o wasanaethau cefnogaeth perthnasol fod ar eu hegwyl tymhorol.

“Rwyf bellach wedi ysgrifennu at yr Adran Gwaith a Phensiynau yn nodi fy mhryderon.”