Mae pennaeth ysgol uwchradd yng Ngwynedd yn dweud bod yr wythnosau diwethaf wedi bod yn “her fawr”, wedi i’r ysgol fod ynghau yn sgil difrod gan dywydd stormus.

Mae Ysgol Ardudwy yn Harlech wedi agor ei drysau am y tro cyntaf ers saith wythnos heddiw (dydd Llun, Ebrill 23), a hynny ar ôl i ddifrod gael ei wneud i bob un o adeiladau’r ysgol yn ystod Storm Emma ddechrau mis Mawrth.

Ers hynny, mae disgyblion wedi bod yn derbyn eu haddysg mewn lleoliadau eraill ledled y sir, megis hen lyfrgell a chlwb ieuenctid Harlech, a Choleg Meirion Dwyfor yn Nolgellau.

“Roedd o’n edrych yn hunllefus wrth edrych be’r oeddan ni’n mynd i’w gwneud,” meddai Pennaeth Ysgol Ardudwy, Tudur Williams, wrth golwg360.

“Roedd rhaid ailwampio’r amserlen i gyd, gydag athrawon ddim yn gallu teithio o le i le – roedd yna gymaint â 30 milltir rhwng pob safle yn Nolgellau a Phorthmadog…

“Mae o wedi bod yn her fawr i bawb, ond rydan ni wedi llwyddo.”

Dim “amharu” ar arholiadau TGAU

Mae Cyngor Gwynedd wedi cadarnhau bod y cam cyntaf o drwsio toeau’r ysgol wedi’i gwblhau, ac er bod disgyblion wedi dychwelyd i’r safle heddiw, fe fydd rhai gwersi yn parhau i gael eu cynnal yn hen lyfrgell Harlech am y tro.

Maen nhw hefyd yn dweud y bydd y cyfan o’r gwaith atgyweirio wedi’i gwblhau erbyn diwedd gwyliau’r haf.

Ond ni fydd y gwaith yn tarfu ar arholiadau TGAU blwyddyn 11, meddai Tudur Williams, cyn ychwanegu y bydd pethau’n “arafu” yn ystod y cyfnod hwnnw.

“Dyna pwy ydan ni’n poeni amdano fwyaf, i ddweud y gwir, yw blwyddyn 11. Mae hwn wedi torri ar draws eu hastudiaethau mewn amser tyngedfennol.

“Ond rydan ni wedi bod yn ymestyn oriau’r ysgol o ddwy awr y dydd yn ystod y pythefnos diwethaf, ac fe fydd hynny’n parhau yn yr amser tan yr arholiadau er mwyn gwneud i fyny’r amser.

“Mae’r disgyblion i gyd wedi aros. Maen nhw yn ddirwgnach wedi bod yn gwneud dwy awr ychwanegol ar eu diwrnod ysgol.”