Mae un o gyn-chwaraewyr pêl-droed enwoca’r wlad wedi dweud wrth gylchgrawn Golwg ei fod yn rhagweld y bydd Cymru yn wlad annibynnol.

Bydd cyn-gôl geidwad Cymru yn annerch cyfarfod ymylol Labour For IndyWales yng Nghynhadledd y Blaid Lafur yn Llandudno’r penwythnos hwn.

Mae Neville Southall yn drydarwr brwd a diddorol ac yn gefnogol iawn o Jeremy Corbyn.

Ac mae hefyd am weld Cymru yn dod yn wlad annibynnol.

“Dw i’n credu y bydd [annibyniaeth] yn digwydd yn hwyr neu’n hwyrach. Hoffwn ein gweld ni yn sefyll ar ein traed ein hunain,” meddai’r cyn-golwr Everton a enillodd 92 o gapiau dros ei wlad rhwng 1985-1997.

“Mae ffordd hir i fynd cyn hynny, achos does dim llawer o fomentwm gennym ni am werthu ein gwlad. Dydyn ni ddim yn grêt am werthu Cymru, dyna beth sy’n fy mhoeni i yn fwy na dim byd arall.”

Bydd Neville Southall yn annerch y cyfarfod Labour For IndyWales yn Oriel Mostyn Llandudno nos yfory am 6.30.

Portread Neville Southall yn rhifyn wythnos yma o gylchgrawn Golwg.