Mae dynes wedi cael ei dedfrydu i chwe blynedd o garchar, ar ôl lladrad mewn siop yr oedd hi’n gweithio ynddi.
Digwyddodd y lladrad yn Brynbuga ar Chwefror 12 y llynedd, pan dorrodd llanc arfog i mewn i’r adeilad.
Mae fideo cylch cyfyng o’r digwyddiad yn dangos Michelle Williams, 34, yn cael ei gorfodi i agor sêff, tra bod gweithiwr arall yn cael ei bygwth.
Ond, mewn gwirionedd, roedd y ddynes yn adnabod y llanc 17 oed yn iawn, ac yn ildio’r arian – cyfanswm o £2,785.19 – o’i gwirfodd.
Fe roddodd ei phartner, Benjamin Bailey, 37, lifft i’r llanc o’r siop, ac wedi’r drosedd fe gafodd yr arian ei rannu rhwng y tri.
Dedfryd
Roedd Michelle Williams wedi honni nad oedd ganddi unrhyw gysylltiad â’r lladrad, ond cafodd ei harestio bum diwrnod wedi’r drosedd.
Mewn gwrandawiad blaenorol, fe gyfaddefodd y tri eu bod wedi cyflawni lladrad.
Heddiw (Ebrill 18), fe gafodd Michelle Williams a Benjamin Bailey, y ddau o’r Blaenau, eu carcharu am chwe blynedd a phedair blynedd a hanner, yn y drefn yna.
Gerbron llys Ynadon Caerdydd, cafodd y llanc – does dim modd ei enwi am resymau cyfreithiol – ei ddedfrydu i dreulio 18 mis dan glo.