Mae Heddlu’r De yn apelio am wybodaeth am ddyn 35 o ardal Tyllgoed yng Nghaerdydd.
Dydy Stephen Ford ddim wedi cael ei weld ers oddeutu 5 o’r gloch fore Gwener pan adawodd Ysbyty Brenhinol Gwent cyn gallu derbyn triniaeth am fan anafiadau.
Mae’n 5’11”, o gorffolaeth denau a chanddo wallt golau sy’n britho.
Pan gafodd ei weld ddiwethaf, roedd yn gwisgo trowsus du, siwmper ddu ac esgidiau du.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.