Mae dynes o’r de wnaeth dwyllo ei chyn-gariad a chymryd £50,000 oddi wrtho, wedi ei charcharu am dair blynedd.

Roedd Linda Vaughan, 42, o Gwmbrân, wedi dweud wrth ei chynbartner, Colin Wilton, 65, ei bod yn  byw mewn pabell ar draeth, ac angen arian am driniaethau.

Dywedodd wrtho fod haint ar ei gwaed a bod meddygon wedi torri ei choesau a’i breichiau i ffwrdd. Mewn gwirionedd, roedd wedi priodi dyn arall ac yn gwario’r arian ar ei hun.

Roedd y ddynes – sydd hefyd yn cael ei hadnabod fel Linda O’Connor – eisoes wedi pledio’n euog i ddau gyhuddiad o dwyll.

Twyll

Clywodd Llys y Goron Caerdydd bod y twyll wedi para am bedair blynedd rhwng Chwefror 2012 ac Ionawr 2016.

Dros y cyfnod hwnnw roedd Colin Wilton wedi rhoi £49,225 iddi.

Bu i’r ddau gyfarfod yn 2009, ac wedi iddo ysgaru symudodd Colin Wilton o Ddyfnaint i fyw gyda Linda Vaughan yn ei chartref yn ne Cymru.

Wedi i’w perthynas ddod i ben gwnaeth y ddau ohonyn nhw barhau i gysylltu â’i gilydd trwy e-byst a negeseuon testun.

Isel

“Wnaeth hi ddefnyddio fi, i fod yn onest,” meddai Colin Wilton mewn datganiad. “Wnaeth hi gymryd mantais ohonof yn llwyr.

“Dw i bellach yn teimlo’n isel fy ysbryd – mi gollais rywbeth yr oeddwn wir yn ei garu. Wnes i aberthu fy nghartref a fy swydd i fod â’r diffynnydd.”

Mae Colin Wilton yn dweud ei fod ef bellach yn gweithio hyd at 80 awr yr wythnos fel dyn tacsi – a’n ennill £200 am hynny. Mae’n rhannu tŷ â phobol eraill, a methu talu am driniaeth i’w hun, meddai.