Mae cyrff dau berson wedi cael eu darganfod ar lwybr yr arfordir yng Ngheredigion.

Roedd yr heddlu wedi cael adroddiadau bod dyn a dynes ar goll yn gynharach ddydd Mercher cyn i’w cyrff gael eu darganfod gyda’r nos ar y llwybr ger Ceinewydd.

Dywed Heddlu Dyfed Powys bode u marwolaethau yn cael eu trin fel rhai anesboniadwy ar hyn o bryd a bod eu teuluoedd wedi cael gwybod.

Mae ymchwiliad ar y gweill i geisio darganfod amgylchiadau eu marwolaethau.

Roedd dau fad achub o Geinewydd, timau achub a hofrennydd wedi ymuno a’r chwilio am tua 3yp ddydd Mercher i helpu yn y chwilio am y ddau.