Mae un o Aelodau Seneddol Cymru wedi dweud bod agenda mwy “peryglus a dwfn” y tu ôl i ail-enwi’r ail Bont Hafren yn ‘Bont Tywysog Cymru’ ar ôl y Tywysog Charles.

Wrth siarad â golwg360, mae Jonathan Edwards, AS Plaid Cymru dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, yn dweud bod y penderfyniad gan Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, yn ceisio “tanseilio cenedligrwydd Cymreig”.

“Mater gwleidyddol yw e, gobeithio bydd y brotest yn erbyn hwn yn parhau, a phwy ag ŵyr, mae gwleidyddion yn dueddol o ymateb i deimladau cyhoeddus,” meddai am y posibilrwydd y bydd Alun Cairns yn cael ei orfodi i wneud tro pedol yn dilyn gwrthwynebiad chwyrn i’r enw newydd.

“Ond fi’n credu bod yna agenda mwy peryglus a dwfn ar waith yn anffodus o ran y sefydliad Prydeinig a hyd yn oed sefydliad Llafur Cymru hefyd.

“Yn sgil Brexit, yn sgil yr hyn sydd wedi digwydd yn yr Alban hefyd dros y blynyddoedd diwethaf, rydyn ni’n gweld mae yna strategaeth hirdymor fanwl o ran ceisio tanseilio cenedligrwydd Cymreig.

“Rydyn ni wedi gweld Gweinidog yn Llywodraeth Cymru yn sôn y dylai Cymru fod yn cael ei marchnata fel ‘prinicpality’, ni’n gweld Gweinidogion ar sawl achlysur ar lawr Tŷ’r Cyffredin yn cyfeirio at Gymru fel ‘principality’.

“Mae hwn yn rhan o agenda llawer mwy dwfn a pheryglus o ran tanseilio cenedligrwydd Cymru er mwyn tanseilio ein hunanhyder ni fel pobol.

“Byddai pont Gareth Bale wedi bod yn wych”

Mae enw’r bont yn bwysig, meddai Jonathan Edwards, a hynny am mai dyma yw prif fynedfa’r wlad o Loegr.

Dywedodd y dylai’r enw fod wedi mynd i dalu teyrnged i un o arwyr y genedl, cyn awgrymu y byddai enwi’r bont ar ôl y pêl-droediwr, Gareth Bale, wedi bod yn ddewis gwell.

“Mae pontydd yn rhywbeth symbolaidd iawn i ni fel Cymru, pan ydyn ni’n teithio nôl o le bynnag ni wedi bod yn y byd… os ydyn ni’n teithio nôl o Loegr, prif fynedfa ein gwlad ein hunain – mae teimlad o falchder pan rydych chi nôl ar dir Cymru.

“Dw i’n credu byddai hwn wedi bod yn gyfle i farchnata Cymru yn well ac efallai rhoi clod i rai o’n harwyr hanesyddol, mae digon o hanes arbennig gyda ni fel cenedl, neu hyd yn oed pam nad ydyn ni’n gwobrwyo rhai o’n sêr chwaraeon ac artistiaid byd enwog sydd gennym ni yng Nghymru?

“Pam ddim Pont Gareth Bale? Byddai wedi bod yn wych.”