Mae clwb rygbi rhanbarthol y Scarlets wedi cyhoeddi y byddan nhw’n cynnal ymchwiliad i honiadau o siantio hiliol yn ystod y gêm yn erbyn La Rochelle ddiwedd yr wythnos ddiwethaf.

Yn ôl y cyfryngau cymdeithasol, roedd sylwadau hiliol i’w glywed gan rai o gefnogwyr y Scarlets yn ystod y gêm ym Mharc y Scarlets ar ddydd Gwener y Groglith, pryd y sicrhaodd y Scarlets fuddugoliaeth o 29 pwynt i 17 dros y clwb o Ffrainc.

“Mae gyda ni hanes balch o fod yn glwb teuluol,” meddai llefarydd ar ran y Scarlets, “ac mae digwyddiadau fel hyn yn gwbwl annerbyniol.

“Fe wnaeth y mwyafrif o’r 15,500 o bobol a oedd yn y dorf ym Mharc y Scarlets ar gyfer rowndiau cwarterol Cwpan y Pencampwyr, fwynhau digwyddiad cyfeillgar ac arbennig i’r teulu.

“Fe fydd ymchwiliad yn cael ei gynnal i ddeall y ffeithiau llawn a chefndir y digwyddiad, cyn y bydd sylwadau pellach yn cael eu gwneud.”

Mae’r fuddugoliaeth i’r Scarlets yn golygu y byddan nhw’n wynebu Leinster ar benwythnos Ebrill 21 a 22, a hynny ar yfer y rownd cyn-derfynol.