Mae ’na oedi hir wedi bod ar reilffyrdd Cymru heddiw ar ôl i ddyn gael ei daro gan drên.

Yn ôl Trenau Arriva Cymru fe ddigwyddodd y ddamwain am 7.40yb bore dydd Llun rhwng Pencoed a Llanharan yn Rhondda Cynon Taf.

Cafodd y dyn ei drin gan barafeddygon ar y safle cyn cael ei gludo i’r ysbyty. Nid yw’r digwyddiad yn cael ei drin fel un amheus.

Oherwydd y digwyddiad bu oedi o hyd at awr i deithwyr gyda rhai gwasanaethau’n cael eu canslo. Mae’r trenau bellach yn rhedeg yn ôl yr arfer.

Yn y cyfamser mae oedi i deithwyr yng Nghaersws ym Mhowys oherwydd llifogydd a achoswyd gan y glaw trwm. Mae ’na oedi o 45 munud ar wasanaethau gyda bysys yn cludo pobl yn lle rhai gwasanaethau trên.