Mae canon o Aberystwyth yn dweud mai ystyr yr Atgyfodiad iddi hi yw bod yna “obaith i lanast ein bywyde ni a’n byd”.

Wrth ystyried yr adeg pan atgyfododd Iesu Grist o’r marw, mae’r Canon Enid Morgan yn dweud bod hyn yn arwydd o rym “gobaith” yn y byd.

Mae’n cyfeirio at y ffaith ei fod yn arwydd o lawnder yn wyneb newyn, cariad yn wyneb colled, ac mewn byd o ryfel, fod yna “ailddechrau” hefyd.

Mae hefyd yn dweud bod yna ail-greu perthynas newydd ar ôl siom, a “phuro ar ôl hyd yn oed gwenwyn.”

“Mae yna atgyfodi o’r llwch a’r llanast,” meddai wrth golwg360, “a dyna beth yw ystyr dweud ‘Atgyfododd Crist! Atgyfododd yn wir!’”

Dyma neges y Canon Enid Morgan yn llawn…