Mae ymgyrchydd o Flaenau Ffestiniog wedi anfon llythyr at arweinydd Plaid Cymru yn rhybuddio y gallai penderfyniad cynghorwyr i gau clybiau ieuenctid fod yn hoelen yn arch y blaid.
Mewn llythyr at Leanne Wood sydd wedi dod i law golwg36o, mae Sel Williams yn ei ddisgrifio ei hun fel “cefnogwr oes” o’r blaid, ond sy’n credu ei bod yn “cyflawni gweithred o hunanladdiad gwleidyddol” yn Ngwynedd trwy gau clybiau ieuenctid yno.
Mae Cyngor Gwynedd yn cael ei reoli gan gynghorwyr Plaid Cymru, a daw’r llythyr yn sgil cyhoeddi toriadau gwerth £270,000 i’r gwasanaeth ieuenctid.
Dan y cynlluniau hyn, fe fydd 39 o glybiau ieuenctid y sir yn cael eu cau, gydag un clwb newydd yn cael ei sefydlu ar gyfer y sir gyfan ac un gweithwyr ieuenctid yn cael ei osod ym mhob ysgol.
Swyddogion
“Sut gyrhaeddodd Cyngor Gwynedd y stad yma?” mae Selwyn Williams yn ei ofyn yn ei lythyr, gan awgrymu mai swyddogion a’u “hunan-fudd” sydd ar fai.
Mae’n dadlau bod swyddogion y gwasanaeth iechyd wedi “annog newidiadau sylfaenol” er mwyn cynyddu eu niferoedd eu hunain, gan waredu’r “mwyafrif helaeth” o weithwyr ieuenctid cymunedol.
Cam yw hyn, meddai, at droi gwasanaeth ieuenctid sydd wedi’i seilio yn y gymuned, yn wasanaeth sydd wedi’i seilio ar y farchnad a model “neo-ryddfrydol”.
“Twyllodrus”
Mae Selwyn Williams yn dadlau bod gwrthwynebiad i’r cynllun yn “gryf” er bod y Cyngor wedi defnyddio “tactegau rhannu a rheoli” er mwyn ceisio distewi’r gwrthwynebiad.
O ran ymgynghoriad y Cyngor ar y cynllun, mae’r cynghorydd yn dadlau yr oedd yn “dwyllodrus”, gan nad oedden nhw wedi esbonio y byddai eu clybiau ieuenctid yn cau, meddai.
Ac er bod ffigyrau’r Cyngor yn awgrymu mai dim ond chwarter o bobol ifanc y sir sy’n mynd i’r clybiau, mae e’n dweud bod hyn yn “gamarweiniol” a bod y ffigwr “llawer mwy” go iawn.
“Ateb”
“Un ateb i Blaid Cymru yng Ngwynedd – rhywbeth mae unigolion, sefydliadau a chymunedau yn dymuno – yw i gadw’r wasanaeth fel y mae am y 12 mis nesa’,” meddai Selwyn Williams yn y llythyr.
“Ac yn y cyfamser, [gallai’r Cyngor] ymgynghori â’r ieuenctid, gweithwyr ieuenctid yn y cymunedau, a’r cymunedau eu hunain, er mwyn dod o hyd i newidiadau derbyniol i’r wasanaeth.”
Mae Cyngor Gwynedd yn mynnu y bydd y cam yn sicrhau fod “pob person ifanc o 11 i 25 oed yn cael mynediad at ystod o weithgareddau hwyliog a chymdeithasol”.