Mae Carwyn Jones yn dweud fod pobol Cymru yn parhau i fod “yn y niwl” ynghylch y math o fargen Brexit mae Prif Weinidog Llywodraeth Prydain am ei chael.

Mae Prif Weinidog Cymru yn dweud ei fod yn pryderu nad yw Theresa May, dros 20 mis ers y refferendwm ym mis Mehefin 2016, wedi egluro’n ddigonol y math o berthynas newydd y byddai’n dymuno ei chael â Brwsel ar ôl y cyfnod pontio.

“Dim ond deuddeg mis sydd i fynd tan y byddwn ni’n ymadael â’r Undeb Ewropeaidd yn ffurfiol,” meddai Carwyn Jones, “ac nid oes gan bobol Cymru unrhyw syniad am y fargen y mae Theresa May am ei chael â Brwsel ar ôl Brexit.

“Y gwirionedd yw, dydyn ni ddim yn gwybod o hyd beth ydyn ni’n ‘pontio’ tuag ato. Dyw’r ansicrwydd hirdymor ddim wedi diflannu, a does dim sicrwydd ynghylch ein perthynas fasnach ac mae hyn yn wael i fusnesau a buddsoddiadau.

“Mae’n ymddangos nad oes cytundeb yn Whitehall ynghylch y math o berthynas mae am ei chael â’r Undeb Ewropeaidd ar ôl Brexit… Rydyn ni angen penderfyniadau clir, tryloywder a’r gallu i graffu’n ddilys ar ddewisiadau fydd yn cael effaith am genedlaethau.

“Mae amser yn prinhau. Mae angen i fusnesau a’r sector cyhoeddus allu cynllunio ar gyfer y newid anferth hwn ond mae’r diffyg eglurder gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn gwneud hyn i gyd bron yn amhosib.

“Dydw i ddim yn cwestiynu Brexit – mae’r Deyrnas Unedig yn ymadael â’r Undeb Ewropeaidd. Ond rydyn i’n haeddu gwybod beth yw’r cynllun.”