Fe fydd Ysgrifennydd Addysg Llywodraeth Cymru yn lansio rhwydwaith newydd heddiw (dydd Mercher, Mawrth 28), sydd i fod i wella sut y mae athrawon yn dysgu’r Cyfnod Sylfaen.

Fe fydd ‘Rhwydwaith Rhagoriaeth y Cyfnod Sylfaen’ yn cael ei gyflwyno gan Kirsty Williams yn ystod ei hymweliad ag Ysgol Gynradd Llanrhidian yn Abertawe.

Nod y rhwydwaith newydd hwn yw dod ag arweinwyr amlwg o bob rhan o fyd addysg at ei gilydd er mwyn rhoi mwy o gymorth i’r athrawon hynny sy’n gweithio â phlant rhwng tair a saith oed.

Mae’r rhwydwaith yn derbyn cymorth ariannol gwerth £1m gan Lywodraeth Cymru, ac fe fydd yn cael ei gefnogi gan gynrychiolwyr o wasanaethau addysg awdurdodau lleol, ysgolion a lleoliadau gofal plant sy’n darparu’r Cyfnod Sylfaen, consortia rhanbarthol, sefydliadau Addysg Uwch a sefydliadau’r trydydd sector.

Y gobaith yw y bydd y rhain yn rhannu arbenigedd, profiadau, gwybodaeth ac arferion â’i gilydd.

Bydd adnoddau ar-lein ar gael i athrawon hefyd a fydd yn rhannu’r wybodaeth.

Adeiladu ar “lwyddiant” modelau eraill

Dywed Kirsty Williams fod y rhwydwaith diweddaraf hwn yn adeiladu ar “lwyddiant” modelau sydd eisoes ar gael mewn pynciau eraill fel Mathemateg, Gwyddoniaeth a Thechnoleg.

“Mae ymarferwyr yn y Cyfnod Sylfaen yn gwneud gwaith rhyfeddol,” meddai. “Er bod eu swydd yn un hynod o anodd, mae hefyd yn un fuddiol iawn, ac mae’r ymarferwyr hyn yn haeddu pob cefnogaeth.

“Bydd y rhwydwaith hwn a’i adnoddau ar-lein yn cynnig lefel newydd o ddatblygiad proffesiynol yn y Cyfnod Sylfaen ar gyfer ysgolion…

“Mae’r datblygiad hwn yn mynd i wraidd yr hyn a welwn ni fel ein cenhadaeth genedlaethol, ac mae’r cwricwlwm newydd yn ymwneud â chodi safonau, lleihau’r bwlch cyrhaeddiad a darparu system addysg y gallwn i gyd fod yn falch ohoni.”