Mae cannoedd o bobol wedi bod yn protestio yng Nghaerdydd heddiw, a hynny er mwyn gwrthwynebu ffair arfau a sy’n cael ei chynnal yno.

Dyma’r pedwerydd tro i’r ffair arfau Amddiffyniad, Ymchwil, Technoleg ac Allforio gael ei chynnal yn Arena Motorpoint yng nghanol y brifddinas.

Maen cael ei chynnal gyda chefnogaeth adrannau Llywodraeth San Steffan, gyda rhai o’r cwmnïau mwya’ ym maes cynhyrchu arfau yn bresennol.

Ac yn ôl Ysgrifennydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, Geraint Tudur,  a oedd yn bresennol yn y brotest y tu i’r Arena Motorpoint, roedd “rhwng tua 250 a 300” o bobol wedi ymgasglu i fynegi eu gwrthwynebiad i’r ffair, gyda’r “mwyafrif” yn Gymry Cymraeg, meddai.

Gwrthwynebu rhyfel ac arfau

Yn cymryd rhan yn y brotest roedd mudiadau megis Cymdeithas y Cymod, Undeb yr Annibynwyr Cymraeg a Na i Ffair Gaerdydd.

“O ran y rhesymau y tu ôl i’r brotest, mae pawb sydd â rhyw fesur o synnwyr cyffredin yn wrthwynebus i ryfel, ac mae hynny’n golygu ein bod ni’n wrthwynebus i arfau, a’r farchnad arfau,” meddai Geraint Tudur eto.

“Dim ond yn y blynyddoedd diwethaf, mae’r ffair arfau arbennig yma wedi cael ei chynnal yng Nghaerdydd. O Fryste do’th hi, ac roedd cymaint o brotestio yn digwydd ym Mryste, fel y gwnaethon nhw benderfynu symud.

“Ac ry’n ni’n gobeithio y bydd yna ddigon o brotestio yng Nghaerdydd heddiw a’r blynyddoedd i ddod, os daw’r ffair yn ôl, fel y byddan nhw’n symud o’n prifddinas ninnau…”

Dyma Geraint Tudur yn sôn ymhellach am ei argraffiadau o’r brotest y tu allan i Arena Motorpoint heddiw: