Mae un o bwyllgorau’r Cynulliad yn dweud ei bod yn “hanfodol” bod gan Gymru fynediad i farchnad yr Undeb Ewropeaidd yn dilyn Brexit.
Yn ôl y Pwyllgor Allanol Deddfwriaeth Ychwanegol, mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru barhau i alw ar Lywodraeth San Steffan i flaenoriaethu yn y trafodaethau ar Brexit y bydd gan Gymru fynediad di-dariffau i farchnadoedd Ewrop yn y dyfodol.
Daw hyn wrth i’r pwyllgor bryderu am y canlyniadau economaidd i Gymru os na chaiff fynediad heb rwystrau tariffau ei sicrhau ym mherthynas y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd yn sgil Brexit.
Yr adroddiad
Yn ystod ei ymchwiliad, fe glywodd y pwyllgor bod sicrhau masnach rydd, gyda’r angen i osgoi rwystrau fel tariffau, yn flaenoriaeth i nifer o ddiwydiannau yng Nghymru.
Ac yn eu hadroddiad wedyn, maen nhw hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth San Steffan i sicrhau bod unrhyw berthynas ar ôl Brexit yn cynnwys:
o Parhau i gymryd rhan yn Yr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd a’r Ganolfan Atal a Rheoli clefydau Ewrop;
o Cymryd rhan yn Horizon 2020 ac unrhyw raglenni a fydd yn ei dilyn;
o Parhau i gymryd rhan yn Erasmus+ a chynlluniau tebyg eraill sy’n ymwneud â chyfnewid myfyrwyr.
Angen “llywio’r berthynas”
Yn Cadeirydd y Pwyllgor, yr Aelod Cynulliad David Rees, fe ddylai Cymru fanteisio ar bob cyfle sydd ar gael i “lywio’r berthynas” rhwng yr Undeb Ewropeaidd a Chymru yn y dyfodol, a hynny mewn ffordd sy’n “adlewyrchu” anghenion a buddiannau pobol Cymru.
“Nid rhestr siopa yw ein hadroddiad, yn rhestru’r hyn y dylid eu cynnwys ac na ddylid eu cynnwys yn y cytundeb hwnnw ar gyfer y dyfodol,” meddai.
“Mae’n cynrychioli’r pryderon sydd gennym ni, a llawer o’n rhan ddeiliaid, am y goblygiadau i Gymru pe na bai’r materion hyn yn cael eu hadlewyrchu yn y berthynas â’r Undeb Ewropeaidd ar ôl Brexit.”