Mae trefnwyr gŵyl FfrinjFfest yn Abertawe brynhawn dydd Sadwrn yn dweud y gallai’r digwyddiad lwyddo ar raddfa genedlaethol.

Fe ddaeth nifer o ganghennau’r mudiad Yes Cymru – mudiad tros annibyniaeth i Gymru – i ganolfan Tŷ Tawe ar gyfer prynhawn o stondinau, sgyrsiau ac adloniant byw.

Ymhlith y siaradwyr yn y digwyddiad roedd yr economegwyr Eifion Thomas (Yes Cymru Llanelli) a Dr John Ball o Brifysgol Abertawe, a’r ddau yn trafod pa mor ymarferol yn economaidd fyddai i Gymru fod yn wlad annibynnol.

Ac fe gynhaliodd y ddawnswraig amgen Eddie Ladd weithdy ‘Cof y Corff’, yn clymu themâu hanes Cymru ac annibyniaeth.

Daeth y cyfan i ben gyda set gan y band roc lleol Windshake.

Roedd cyfle yn ystod y dydd hefyd i glywed y diweddaraf am ymgyrch annibyniaeth Catalwnia gan un o aelodau Yes Cymru Abertawe, Byron Huws – a negeseuon yn cael eu hanfon o’r digwyddiad i’r rhai sydd yn ei chanol hi.

‘Tynnu pobol ar lawr gwlad at ei gilydd’

Dywedodd cadeirydd Yes Cymru Abertawe, Tricia Roberts wrth golwg360: “Holl fwriad FfrinjFfest oedd tynnu pobol ar lawr gwlad sydd o blaid annibyniaeth at ei gilydd i drafod ac i rwydweithio mewn cynulliad anffurfiol llawn gwybodaeth. Ac fe lwyddodd!

“Dw i’n credu i ni i gyd adael yn teimlo’n bositif iawn.

“Diolch i’r ddau economegydd, Eifion Thomas a Dr John Ball am agor ein llygaid, ac i Eddie Ladd am ffordd arloesol o ddysgu am ein hanes gyda’i gweithdy ‘Cof y Corff’.

“A diolch yn fawr i Dŷ Tawe ac i bawb am ddod ac am alluogi’r digwyddiad hwn i gael ei gynnal. Roedd yn llwyddiant ysgubol a dw i’n credu y gallen ni ei gynnal ar raddfa genedlaethol.”

Fe fydd Yes Cymru Abertawe’n lansio nosweithiau comedi newydd sbon, Sefyll Lan Dros Gymru gyda Stifyn Parri yn Nhŷ Tawe ar Ebrill 7.