Mae Gareth Bale wedi dweud ar drothwy rownd derfynol Cwpan Tsieina bod Cymru “yn y gwaed a’r galon”.

Fe fydd Bale a Chymru’n herio Wrwgwái yn Nanning ddydd Llun wrth i’r rheolwr Ryan Giggs arwain y wlad mewn cystadleuaeth am y tro cyntaf.

Ac mae’n cyfaddef y bydd yn brofiad braf ennill twrnament gyda’r tîm rhyngwladol.

Dywedodd Gareth Bale: “Fe fydd yn enfawr.

“Mae ennill unrhyw dlws yn dda. Ond tros eich gwlad, mae gymaint yn fwy arbennig. Mae yn eich calon a’ch gwaed.”