Gyda phwerau dros drethi yn cael eu datganoli i Gymru dros y misoedd nesaf, mae’n rhaid hysbysu’r cyhoedd o’r newidiadau sydd am fod.

Dyna argymhelliad Pwyllgor Cyllid y Cynulliad Cenedlaethol, sydd wedi bod yn edrych ar sut y bydd trethi newydd yn cael eu casglu.

Ar Ebrill 1 mi fydd pwerau trethi tros ‘trafodiad tir’ a ‘gwarediad tirlenwi’ yn cael eu datganoli, ac yn 2019 mi fydd rhai pwerau dros y dreth incwm yn dod i Gymru.

Mae’r pwyllgor am weld “ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus” yn cael ei lansio, ac eisiau sicrhau bod y trethi yma yn cael eu “casglu’n effeithlon”.

“Hanfodol”

“Mae’n hanfodol bod y trethi hyn yn cael eu casglu’n effeithlon, yn effeithiol a bod pobl yn ymwybodol o sut y defnyddir eu trethi a sut mae’n effeithio arnynt,” meddai Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, yr Aelod Cynulliad, Simon Thomas.

“Rydym yn credu y dylai Llywodraeth Cymru ac Awdurdod Cyllid Cymru, sef y corff newydd ar gyfer casglu trethi, gynnal ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus helaeth i helpu pobl i ddeall y newidiadau hyn fel bod ganddynt fwy o wybodaeth am y pwerau a’r cyfrifoldebau sydd yng Nghymru.”

Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb.