Y penwythnos hwn, mae Heddlu Gogledd Cymru un cynnal diwrnod i geisio annog pobol i feddwl, sylwi a chodi llais am achosion o gam-drin plant.

Mae Cyngor Môn yn cymryd rhan yn y diwrnod ac wedi bod yn cynnal sesiynau codi ymwybyddiaeth gyda gyrwyr tacsis yr ynys, yn benodol.

Mae’r Cyngor hefyd wedi trefnu bod un o ddioddefwyr yr achos cam-drin yn Rotherham yn dod i drafod â staff er mwyn eu helpu i adnabod arwyddion y gallai plentyn fod yn dioddef.

Yn ôl yr awdurdod, “nid codi ofn” ar bobol yw’r nod, ond codi ymwybyddiaeth.

“Mae hon yn ymgyrch bwysig iawn,” meddai Fôn Roberts, Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd.

“Rydan ni’n trïo dangos y pethau y dylai pobol gadw golwg allan amdanyn nhw.

“Byddai’n well ganddon addysgu pobol er mwyn sicrhau nad oes dim byd yn digwydd o gwbwl, yn hytrach na cheisio ymateb ar ôl iddo ddigwydd.”

Gyrwyr tacsis “mewn sefyllfa unigryw”

Mae’r heddlu yn dweud eu bod yn targedu gyrwyr tacsis am eu bod mewn sefyllfa unigryw i allu gweld os oes achosion o gam-drin yn digwydd.

“Mae gyrwyr tacsis mewn sefyllfa arbennig i allu cynorthwyo ac mae tystiolaeth yn dangos bod gyrwyr tacsis yn aml yn cael eu defnyddio i gludo plant rhwng gwestai, tafarndai a lleoedd eraill lle mae pobol yn cam-fanteisio arnyn nhw,” meddai’r swyddog Danni Power o Heddlu Gogledd Cymru.

“Felly, mae’n syniad da bod gyrwyr tacsis yn ymwybodol o’r arwyddion o gam-fanteisio, ond, yn fwy na hynny, mae’n gyfrifoldeb arnyn nhw hefyd.”