Mae dyn 24 oed wedi’i anafu’n ddifrifol yn dilyn gwrthdrawiad ger Dolgellau yn ystod oriau mân y bore ddoe (Dydd Sul, Mawrth 11).

Roedd y cerddwr, sy’n ddyn lleol, yn cerdded ar hyd yr A470 i gyfeiriad Brithdir yn fuan wedi 6:30yb pan gafodd ei daro gan gerbyd a fethodd â stopio.

Yn dilyn y digwyddiad, fe gafodd ei gludo i’r ysbyty yn Aberystwyth gan y Gwasanaeth Ambiwlans, lle mae’n parhau gydag anafiadau difrifol sydd ddim yn fygythiad i fywyd.

Mae’r heddlu yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw ar y rhif 101, gan ddyfynnu’r rhif cyfeirnod W030541