Mae Heddlu’r De yn parhau i apelio am wybodaeth yn dilyn diflaniad Lindsey Rees, 61, o Benarth.

Aeth hi ar goll ddydd Sadwrn ar ôl cael ei gweld ddiwethaf am 8 o’r gloch y bore, wrth iddi groesi’r ffordd ger tafarn Merrie Harrier yn Llandochau ac yn teithio i gyfeiriad Penarth.

Mae’r heddlu wedi cyhoeddi lluniau camerâu cylch-cyfyng ohoni.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.