Mae clefyd sy’n lladd cŵn bellach wedi arwain at farwolaeth 13 o gŵn yng Nghymru ac mae nifer yr achosion ar gynnydd.
Mae chwech o gŵn wedi marw yng Nghymru o ganlyniad i Alabama Rot dros y ddeufis diwethaf.
Mae Mel Mackeprang, perchennog Sky, un o’r cŵn fu farw, wedi rhybuddio perchnogion eraill i fod yn wyliadwrus, ac i fod yn ymwybodol o’r symtomau, sy’n cynnwys afiechyd ar y croen a chwydu.
Dywedodd ei bod hi’n torri ei chalon.
Mae’r Coleg Milfeddygol Brenhinol yn cynnal ymchwiliad i’r achosion ar hyn o bryd, ac maen nhw’n rhybuddio perchnogion i olchi eu cŵn os ydyn nhw’n frwnt ar ôl bod am dro.