Mae angen mwy o ddarpariaeth i fewnfudwyr allu dysgu Cymraeg, yn ôl academydd.

Mae ymchwil newydd a gyhoeddwyd gan Dr Gwennan Higham o Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe, wedi datgelu’r rhwystrau sy’n wynebu mewnfudwyr sydd am ddysgu Cymraeg.

Ym mhapur y Journal of Multilingual and Multicultural Development, mae Dr Gwennan Higham wedi canfod mai diffyg darpariaeth adnoddau yw’r brif her sy’n wynebu mewnfudwyr wrth ddysgu Cymraeg.

“Yr heriau  yw nid diffyg diddordeb ymhlith mewnfudwyr, ond diffyg darpariaeth a diffyg ymwybyddiaeth am y Gymraeg a sut mae’r iaith yn medru cyfoethogi eu bywydau ynghyd â’u teuluoedd,” meddai Dr Gwennan Higham.

“Ar sail canfyddiadau fy ngwaith ymchwil, mae diffyg darpariaeth benodol yn nacáu cydlynant cymdeithasol llawnach yng Nghymru.

“Gwyddwn fod dros dreian y boblogaeth yng Nghymru yn cael eu geni y tu allan i’r DU yn ôl Cyfrifiad 2011, ac mae’r ffigwr yn debygol o gynyddu eto dros y blynyddoedd nesaf. Hoffwn i weld strategaeth integreiddio benodol sydd yn diffinio rôl ieithoedd, a sut y mae’r Gymraeg, a’r Saesneg, yn cyfrannu at fudd cymdeithasol ac economaidd mewnfudwyr.

“Mae angen i sefydliadau addysg a chymunedau lleol mynd i’r afael â’r cyfle i gynnig llwybrau dysgu amlieithog er budd profiadau integreiddio mewnfudwyr yng Nghymru.”