Mae Llywodraeth Cymru wedi ei chyhuddo o beidio â defnyddio Maes Awyr Caerdydd, a hynny ar ôl prynu’r lle am £52 miliwn.

Rhwng Medi 2016 a Hydref 2017, gwnaeth gweinidogion Llywodraeth Cymru ond teithio unwaith o Gaerdydd i Lundain ar un o awyrennau cwmni FlyBe.

Mae’n debyg roedd yna gyfanswm o 1,200 taith awyr rhwng y ddwy ddinas yn ystod y cyfnod hwn.

Cafodd Maes Awyr Caerdydd ei brynu gan Lywodraeth Cymru pum mlynedd yn ôl am £52 miliwn, ac yn ôl y Ceidwadwyr mae’r ffaith bod Gweinidogion yn gwneud cyn lleied o ddefnydd o’r lle yn “codi pryderon dwys”.

Dweud a gweithredu

“Mae’n haws dweud na gwneud,” meddai llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar faterion Economaidd, yr Aelod Cynulliad, Russell George.

“A dywedaf wrth Carwyn Jones, mai’r ffordd orau o gefnogi’i faes awyr yw trwy ei ddefnyddio! Pa fath o neges sy’n cael ei anfon i deithwyr Cymru, os nad yw’r Prif Weinidog … na’i gydweithwyr yn ei ddefnyddio?”

Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb.