Bydd llanc, 17, a oedd wedi bygwth cynnal ymosodiad brawychol yng Nghaerdydd, yn cael ei ddedfrydu yn ddiweddarach heddiw (Mawrth 2).

Cafodd ei arestio yn ei gartref yn Rhondda Cynon Taf ym mis Mehefin, rai oriau ar ôl pori am fanylion diogelwch cyngerdd yn y ddinas.

Gerbron llys ym mis Tachwedd, cafodd y llanc ei farnu’n euog o baratoi gweithredoedd brawychol, dau gyhuddiad o annog brawychiaeth, a dau gyhuddiad o feddu ar bropaganda eithafol.

Clywodd y llys bod y cynllwyniwr – na ellir ei enwi oherwydd ei oedran – o gefndir gwyn, Prydeinig, a’i fod wedi’i ysbrydoli gan y Wladwriaeth Islamaidd (IS) a deunydd ar y we.

Roedd Llyfrgell Ganolog Caerdydd ac ardal Castell Caerdydd ymysg targedau posib, a chlywodd y rheithgor ei fod wedi sgwennu “llythyr merthyrdod”.

Mae’r Barnwr Mark Wall QC, fydd yn dyfarnu’r ddedfryd, wedi rhybuddio bydd cosb lem o ystyried natur y troseddau.