Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth yn dilyn damwain angheuol yng Nghaerdydd nos Fawrth (Chwefror 27).

Digwyddodd y gwrthdrawiad am tua 4:50yh, lle gwnaeth dri char daro’n erbyn ei gilydd ger gorsaf yr heddlu ar Heol Casnewydd.

Mae un o’r gyrwyr, sef dyn 23 oed, wedi derbyn anafiadau difrifol yn dilyn y digwyddiad, ac mae merch 23 oed mewn cyflwr difrifol yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd.

Mae gyrrwr arall wedyn, sef dyn 29 oed, wedi derbyn anafiadau i’w bigwrn.

Mae’r heddlu’n dweud nad oedd neb arall wedi’u hanafu, ac maen nhw’n galw ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw ar y rhif 101.