Mae tad dyn 32 oed a gafodd ei roi mewn coma yn dilyn gwrthdrawiad yn Sir Fynwy wedi apelio am wybodaeth ar ôl i’r gyrrwr ffoi.
Mae’r heddlu’n dal i chwilio am yrrwr fan Ford Transit yn dilyn y gwrthdrawiad ar yr A48 ym Mhwllmeurig ger Cas-gwent ddydd Sadwrn diwethaf.
Fe fu John Conibeer mewn coma ers hynny.
Roedd e newydd fod mewn gwrthdrawiad arall pan gafodd ei daro gan y fan ar ymyl y ffordd.
Dywedodd ei dad, Anthony fod gan ei fab “galon dda” a bod “calon y teulu wedi’i rhwygo allan”.
Dywedodd nad oedd yn deall sut y gallai unrhyw un adael ei fab “i farw”.