Mae cyn-seren rygbi Cymru, Shane Williams wedi’i gyhuddo am ei ran mewn ffrwgwd yng Nghaerdydd ym mis Rhagfyr.

Bydd yn mynd gerbron ynadon yn y brifddinas ar Fawrth 9.

Mae e ymhlith chwech o ddynion sydd wedi’u cyhuddo yn dilyn digwyddiad yng Nghaerdydd ar Ragfyr 2.

Shane Williams, 40, yw prif sgoriwr ceisiau Cymru ac mae bellach yn gweithio fel dadansoddwr teledu.