Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio i ymosodiad rhyw difrifol ym Mharc Dolerw yn Y Drenewydd yn oriau mân y bore yma.
Dywed yr heddlu y dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â nhw, ac maen nhw am glywed gan unrhyw un oedd yn ardal y parc cyn 1 o’r gloch y bore.
Dylai pobol gadw draw o’r parc am y tro, meddai’r heddlu.
Mae ras yn cael ei chynnal yn yr ardal, ac mae llwybr y ras wedi cael ei addasu gan y trefnwyr.