Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig wedi cyhuddo Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, o dorri Cod y Gweinidogion, a hynny trwy ddefnyddio ffôn symudol y Llywodraeth i drafod materion yn ymwneud â’r Blaid Lafur.

Daw hyn yn sgil cwestiwn a gafodd ei hol gan Andrew RT Davies ynglŷn ag os oedd y Prif Weinidog erioed wedi defnyddio ei ffôn symudol, sy’n cael ei darparu gan y Llywodraeth, i gysylltu â gweinidogion a swyddogion i drafod busnes y Blaid Lafur.

Ond wrth i Carwyn Jones wrthod ymateb i’r cwestiwn, ac yna ddatgelu nad oes ganddo “ffôn symudol personol”, mae Andrew RT Davies yn cymryd yn ganiataol bod y Prif Weinidog yn cyfaddef ei fod wedi torri Cod y Gweinidogion.

Mewn llythyr at y Prif Weinidog yn sgil yr ymateb hwn, mae Andrew RT Davies wedi galw am “esboniad brys”, neu fe fydd yn rhaid mynd  â’r mater yr Ymgynghorwr Annibynnol ar God y Gweinidogion yn y Cynulliad, James Hamilton.

Angen asesiad “iawn”

“Mae’n groes i God y Gweinidogion i defnyddio adnoddau Llywodraeth Cymru i ddibenion gwleidyddiaeth bleidiol. Diwedd y mater,” meddai Andrew RT Davies.

“Fe ddylai’r Prif Weinidog ddarparu logiau ar gyfer y ffôn symudol, ac fe ddylai cyfeirio ei hun at God y Gweinidogion fel y gall y mater gael ei asesu’n iawn.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

“Does gan y Prif Weinidog ddim ffôn symudol personol. Yn rhinwedd ei swydd fel y Prif Weinidog, mae’r Llywodraeth yn darparu ffôn clyfar iddo sydd wedi’i ddiogelu rhag unrhyw hacio.

“Mae gan y Prif Weinidog yr hawl i wneud galwadau y tu hwnt i faterion y Llywodraeth ar y ffôn clyfar hwn, ac oherwydd y math o gontract galwadau symudol sydd gan y Llywodraeth, does dim costau ychwanegol i’r trethdalwr.”