Bydd corff rheoleiddio yn cynnal adolygiad i’r modd yr oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg (BIPABM) wedi delio gydag aelod o staff gafodd ei garcharu am oes am lofruddio cymydog.

Yn ystod mis Medi 2016 cafodd Kris Wade, 38, ei garcharu am oes am lofruddio Christine James yn ei fflat ym Mae Caerdydd. Roedd yn gweithio i BIPABM fel cynorthwyydd gofal adeg y drosedd.

Roedd eisoes wedi ei wahardd o’i waith dros dro wrth aros am ymchwiliad i dri honiad ar wahan o ymosodiad rhywiol gafodd eu gwneud yn ei erbyn gan gleifion.

Cynhaliodd BIPABM adolygiad mewnol oedd yn ystyried y modd yr oedd cyflogaeth Kris Wade wedi cael ei rheoli, a’r modd roedd y bwrdd wedi ymdrin a’r tri honiad yn ei erbyn. Daeth y bwrdd iechyd i’r casgliad bod angen iddyn nhw wneud gwelliannau mewn sawl maes.

Adolygiad

Yn ôl Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, bydd eu hadolygiad yn ystyried adolygiad mewnol BIPABM ac yn cwestiynu os ydy’r Bwrdd Iechyd wedi cymryd camau priodol yn ei sgil.

Mae disgwyl i adolygiad yr Arolygiaeth, sydd wedi cael ei drefnu gan Lywodraeth Cymru, gael ei gwblhau erbyn mis Rhagfyr eleni, ac i adroddiad gael ei gyhoeddi ar ddiwedd y broses adolygu.