Mae’r Gymdeithas Diwygio Etholiadol wedi beirniadu’r Prif Weinidog, Theresa May, am wneud “tro pedol peryglus”, wrth iddi fwrw ymlaen â chynlluniau i dorri’r nifer o Aelodau Seneddol o 650 i 600.

Yn ôl adroddiadau, mae disgwyl i Theresa May fynd yn groes i alwadau nifer o Aelodau Seneddol trwy fwrw ymlaen gyda chynlluniau i newid ffiniau etholaethol.

Bydd hyn yn golygu bod  nifer y seddi yn gostwng o 650 i 600 – gyda nifer yr Aelodau Seneddol yng Nghymru yn gostwng o 40 i 29.

Mae disgwyl i Dŷ’r Cyffredin gynnal pleidlais yn yr hydref ynglŷn â newid ffiniau etholaethol.

Ond yn ôl y Gymdeithas Diwygio Etholiadol, er y bydd San Steffan yn ennill mwy o rym yn sgil Brexit, fe fydd llai o seddi yn golygu na fydd Tŷ’r Cyffredin a’r gallu i graffu ar y grymoedd hynny.

Maen nhw’n dadlau y byddai  600 o seddi yn Nhŷ’r Cyffredin yn rhoi “pwysau” ar ddemocratiaeth, gan greu heriau wrth ffurfio ac asesu polisïau.

Angen “cynrychiolaeth go iawn”

“Mae pleidleiswyr eisiau cynrychiolaeth go iawn yn Nhŷ’r Cyffredin er mwyn sicrhau’r cyflenwad a’r asesu hanfodol sydd eu hangen arnom ni, a hynny ar gyfer nawr a’r cyfnod pan fyddwn ni’n derbyn pŵer newydd yn sgil Brexit,” meddai Darren Hughes, Prif Weithredwr y Gymdeithas Diwygio Etholiadol.

“Yn hytrach na lleihau’r gynrychiolaeth wleidyddol a gwanhau lleisiau’r pleidleiswyr, fe ddylai’r Prif Weinidog ohirio’r cynlluniau hyn sydd ar y gweill i dorri nifer yr Aelodau Seneddol, a symud ymlaen tuag at wneud ffiniau sy’n fwy teg ar gyfer Tŷ’r Cyffredin sy’n fwy cynaliadwy.”