Mae dyn, 21 oed, wedi ymddangos gerbron ynadon heddiw ar gyhuddiad o geisio llofruddio dyn yn dilyn digwyddiad difrifol yn nhref Rhuthun dros y penwythnos.

Fe ymddangosodd Connor Hooley, 21 oed, o flaen Llys Ynadon Llandudno ddydd Llun a chafodd ei gadw yn y ddalfa.

Mae wedi’i gyhuddo o geisio lladd Christopher Lloyd, 36 oed, yn Stryd Clwyd, Rhuthun, yn ystod oriau mân fore dydd Sadwrn (17 Ionawr).

Fe fydd yn mynd gerbron Llys y Goron yr Wyddgrug ar 23 Mawrth.

Mae merch, 21 oed, a gafodd ei harestio, bellach wedi’i rhyddhau ar fechnïaeth tra bod ymchwiliad yr heddlu yn parhau.

Mae Christopher Lloyd yn parhau i fod mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty ac mae ei deulu yn derbyn cymorth gan swyddogion cyswllt teulu arbenigol.

Mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw ar 101 gan nodi’r cyfeirnod W019961neu Taclo’r Taclau’n ddienw ar 0800 555111.