Mae dyn, 21 oed, wedi’i gyhuddo o geisio llofruddio ar ôl digwyddiad difrifol yn nhref Rhuthun dros y penwythnos.

Fe gafodd Connor Hooley, 21 oed, ei gadw yn y ddalfa nos Sadwrn yn sgil y digwyddiad ar Stryd Clwyd, Rhuthun, yn ystod oriau mân y bore hwnnw (17 Ionawr).

Fe fydd yn ymddangos o flaen Llys Ynadon Llandudno heddiw.

Mae merch, 21 oed, a gafodd ei harestio, bellach wedi’i rhyddhau ar fechnïaeth tra bod ymchwiliad yr heddlu yn parhau.

Mae dyn 36 oed yn parhau i fod mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty ac mae ei deulu yn derbyn cymorth gan swyddogion cyswllt teulu arbenigol.

Mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw ar 101 gan nodi’r cyfeirnod W019961neu Taclo’r Taclau’n ddienw ar 0800 555111.