Fe fydd angladd teulu a fu farw mewn tân yn Llangamarch ym Mhowys ar Hydref 30 yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn, Chwefror 24.
Bu farw dyn 68 oed, David Cuthbertson, ar Hydref 30 y llynedd, ynghyd â phump o blant -Just Raine (11), Reef Raine (10), Misty Raine (naw), Patch Raine (chwech) a Gypsy Raine (pedair). Bu’n rhaid eu hadnabod nhw a’u tad gan ddefnyddio DNA.
Llwyddodd tri o blant i ddianc cyn i’r adeilad ddymchwel yn y tân.
Mae cwest i farwolaethau’r chwech wedi’i agor yn Aberdâr a’i ohirio ar ôl i’r heddlu ddweud bod ymchwiliad i achos y tân ar y gweill.
Fe fydd adolygiad yn cael ei gynnal yn Y Trallwng cyn i’r cwest barhau ar Ebrill 6.