Mae dau gerddwr wedi’u hachub ar ôl ceisio dringo’r Wyddfa mewn eira a rhew.
Cafodd Tîm Achub Mynydd Llanberis eu galw brynhawn dydd Sadwrn.
Aeth chwech aelod o’r tîm at y dringwyr, 300 metr islaw’r copa.
Cymerodd hi bedair awr i’w cludo i ddiogelwch.
Mae rhybudd i ddringwyr y dylen nhw ffonio 999 mewn argyfwng.